Straen
Sut i adnabod straen
Mae straen yn effeithio ar y ffordd yr ydym yn meddwl, y ffordd yr ydym yn teimlo y tu mewn, mae’n newid ein hymddygiad ac mae ganddo effeithiau corfforol go iawn.
Dyma rai ffyrdd y mae straen yn effeithio arnom:
Meddwl
- Cof gwael
- Methu â chanolbwyntio
- Meddyliau negyddol
- Meddyliau cyflym
- Poeni
Teimladau
- Pwdlyd
- Pigog
- Wedi eich llethu
- Chwerw
- Anhapus
Corfforol
- Poenau
- Teimlo’n sâl
- Poen yn y frest, curiad calon cyflym
- Colli’r ysfa am ryw
- Peswch ac anwydydd
Gweithredoedd
- Newidiadau mewn chwant bwyd
- Newidiadau mewn cwsg
- Ddim yn mynd allan
- Osgoi pethau
- Defnyddio alcohol, sigaréts neu gyffuriau i ymdopi
Efallai y bydd pobl sy’n dioddef o straen yn osgoi pobl eraill, a all ei gwneud hi’n anoddach iddynt gael help. Gall cyfnodau hir o straen arwain at newidiadau hirdymor ynom, felly os ydym yn teimlo llawn straen, dylem weithredu cyn gynted â phosibl.
Beth sy’n achosi straen?
Mae’r rhan fwyaf ohonom yn teimlo bod pethau tebyg yn peri straen. Mae siarad yn gyhoeddus yn enghraifft dda. Cofiwch, mae straen yn bersonol iawn. Mae straen yn effeithio ar bobl yn wahanol. Mae ein genynnau, ein profiadau bywyd a’n hagwedd yn chwarae rhan o ran pa mor o dan straen yr ydym yn teimlo.
- Methu â rheoli ein hamgylchedd – e.e. tai gwael, diswyddo, rhyddid cyfyngedig, rhagfarn, stigma, symudedd cyfyngedig
- Profiadau bywyd megis tlodi, diweithdra ac ansicrwydd yn y gwaith
- Gwrthdaro gyda phobl eraill, perthnasau’n dod i ben, bwlio yn y gwaith neu’r ysgol a cham-drin domestig neu emosiynol/li>
- Digwyddiadau mawr mewn bywyd megis genedigaethau, marwolaethau ac ysgariad/li>
- Cyflyrau iechyd cronig, nam corfforol, dibyniaeth neu gwsg gwael
- Terfynau amser afrealistig a phwysau i gyflawni yn y gwaith neu’r ysgol
- Gall teimladau o ansicrwydd a hunan-amheuaeth ein gwneud yn fwy agored i niwed i effeithiau straen
Faint o straen ydw i’n ei deimlo?
Edrychwch ar y pedwar cwestiwn hwn. Maent o holiadur o’r enw PSS-4.
Cyfrifwch eich sgoriau ar gyfer y pedwar cwestiwn. Bydd eich sgôr rhwng 0 ac 16. Nid oes unrhyw reolau pendant, ond os yw eich sgôr tua 8 neu fwy, efallai y byddwch eisiau pwyso a mesur faint o straen sydd yn eich bywyd.
Ni fydd hyn yn rhoi diagnosis i chi – dim ond gweithiwr proffesiynol iechyd cymwys y gellir gwneud hynny – ond bydd yn rhoi gwell syniad i chi o’ch symptomau.
Gallwch lawrlwytho PDF o’r tabl uchod yma: PSS-4 Table
Lleihau Straen
Mae gwrth-iselyddion a ‘therapïau siarad’ (cwnsela neu seicotherapi) yn hynod ddefnyddiol a gellir eu cyrchu drwy eich Meddyg Teulu. Dylech gysylltu â’ch Meddyg Teulu ar unwaith os ydych yn meddwl eich bod dan straen. Gall ymwybyddiaeth ofalgar helpu hefyd, yn enwedig os ydych wedi bod yn isel yn y gorffennol.
Mae llawer o ddulliau ar gyfer trin straen. Os nad ydych yn dod o hyd i un sy’n gweithio, rhowch gynnig ar ddulliau eraill tan eich bod yn dod o hyd i un yr ydych yn teimlo’n gyfforddus ag ef ac sy’n gweithio i chi.
Mae’r rhan fwyaf o bobl sy’n dioddef o iselder yn cael eu trin gan eu Meddyg Teulu. Yn aml, nid gwrth-iselyddion fydd dewis cyntaf eich rhagnodwr, gan y gall therapi siarad fod yr un mor effeithiol â thabledi.
Os yw gwrth-iselyddion wedi’u rhagnodi i chi, gallant gymryd sawl wythnos i weithio felly peidiwch ag anobeithio os nad ydych yn teimlo’n well ar unwaith. Weithiau, maent yn gweithio orau pan maent yn cael eu cymryd am gyfnod hirach, ac ni ddylid rhoi’r gorau iddynt yn gyflym heb gyngor meddygol
Gall eich apwyntiad cyntaf gyda’ch Meddyg Teulu deimlo’n anodd, yn enwedig os ydych yn gweld straen fel ‘gwendid’ (nid yw’n ddim o’r fath beth!) felly gallai fod yn ddefnyddiol i ysgrifennu’r hyn yr ydych eisiau ei drafod cyn i chi ymweld â’ch Meddyg Teulu. Gwnewch nodyn o unrhyw gwestiynau neu bryderon a allai fod gennych. Mae rhai pobl yn gweld bod dod â ffrind neu aelod o’r teulu i’r apwyntiad yn ddefnyddiol
Mae straen yn gwneud i ni deimlo’n unig ac yn anobeithiol, a gall fod yn anodd dod o hyd i’r egni i ofyn am gymorth. Gall galwad ffôn cyflym symud pethau yn eu blaenau a’ch rhoi ar y ffordd i adferiad.
Ymddwyn i’r gwrthwyneb
Yn aml, mae straen yn gwneud i ni fod eisiau osgoi pawb a phopeth ac mae’n ein harafu. Gall fod yn anodd iawn, ond gall cadw’n actif ac aros gyda phobl fod yn ddefnyddiol iawn. Efallai y gall aros neu ddychwelyd i’r gwaith fod yn anodd hefyd, ond gall ein helpu i gadw synnwyr o reolaeth. Fel arfer, mae cadw at drefn ddyddiol arferol yn llawer gwell na thynnu yn ôl ac aros yn eich gwely. Efallai y byddwn yn teimlo fel cau osgoi pawb a phopeth, ond gall gwneud hynny wneud pethau’n waeth.
Delio â phethau
Gall anwybyddu ein problemau wneud iddynt gronni. A oes pethau yn eich bywyd yr ydych yn eu hanwybyddu neu’n gwrthod delio â hwy? A allai eiriolwr neu unrhyw gymorth ychwanegol helpu? Gall y Ganolfan Cyngor ar Bopeth helpu gydag amrywiaeth o faterion, o dai i bryderon ariannol. Mae gwneud pethau i fynd i’r afael â’n problemau yn lleddfu’r baich ac yn ein helpu i deimlo ‘mewn rheolaeth’ unwaith eto.
Atgyweirio perthnasau
Os ydych yn cael trafferth gyda pherthynas anodd, neu os yw gorbryder yn achosi problemau yn eich perthynas, gallwch ddod o hyd i restr o asiantaethau cenedlaethol sy’n darparu cymorth gyda pherthnasau, neu gallwch siarad â’ch Meddyg Teulu am fathau eraill o gwnsela national relationship helping agencies, or speak to your GP about other types of relationship counselling.
Osgoi alcohol a chyffuriau
Mae alcohol yn iselydd – mae’n gostwng eich hwyliau. Gall cyffuriau eraill nad ydynt ar bresgripsiwn fod ag effeithiau tebyg a dylid eu hosgoi. Os ydych yn meddwl y gallai alcohol neu gyffuriau fod yn broblem, gallwch gysylltu â DAN 24/7, Llinell Gymorth Cyffuriau ac Alcohol Cymru: DAN 24/7 website or call them on 0808 808 2234.
Adnoddau hunangymorth
Mae llawer o lyfrau a gwefannau da a all helpu. Unwaith eto, bydd eich Meddyg Teulu, nyrs practis neu ymarferydd iechyd meddwl gofal sylfaenol yn gallu argymell o amrywiaeth o ddeunydd rhagorol a defnyddiol.
Gweithredwch nawr!
Y cynharaf y bydd y driniaeth yn dechrau, y cynharaf y byddwch yn teimlo’n well! Os ydych wedi cael eich effeithio gan unrhyw beth yr ydych wedi’i ddarllen yma, cysylltwch â’ch Meddyg Teulu nawr. Peidiwch ag oedi wrth ofyn am gymorth. Weithiau, mae straen yn codi ar ei liwt ei hun, ond pam cymryd y risg?
Siaradwch â’ch Meddyg Teulu neu weithiwr proffesiynol iechyd am wybodaeth ychwanegol neu i ddechrau eich taith i adferiad heddiw.
Graddfa Straen Canfyddedig (PSS)
Mae’r PSS yn cynnwys cwestiynau amlddewis. Mae’r eitemau’n cynnwys dewisiadau ar raddfa 5 pwynt. Mae eitemau rhif 4, 5, 7, ac 8 yn gofyn am godio gwrthdro. I gyfrifo cyfanswm y sgôr asesu, cyfrifwch yr holl eitemau graddfa. Bydd cyfanswm y sgoriau yn amrywio o 0 i 40.
Gallwch lawrlwytho PDF o’r tabl uchod yma
PSS Table
Asiantaethau Cymorth
Gallwch ddod o hyd i restr o asiantaethau cenedlaethol a all helpu gyda gorbryder yma: National Stress Agencies
Ymwadiad
Mae’r erthygl hon ar gyfer gwybodaeth yn unig a ni ddylid ei defnyddio i ddiagnosio neu drin cyflyrau meddygol. Rydym wedi defnyddio pob gofal rhesymol wrth lunio’r wybodaeth ond nid ydym yn sicrhau ei chywirdeb. Rydym yn argymell eich bod yn ymgynghori â meddyg neu weithiwr gofal iechyd proffesiynol arall ar gyfer diagnosio a thrin cyflyrau meddygol, neu os ydych yn bryderus am eich iechyd.