Mynd i'r cynnwys

Iselder

Triniaethau ar gyfer iselder

Mae gwrth-iselyddion a ‘therapïau siarad’ (cwnsela neu seicotherapi) yn hynod ddefnyddiol a gellir eu cyrchu drwy eich Meddyg Teulu. Dylech gysylltu â’ch Meddyg Teulu ar unwaith os ydych yn meddwl bod eich hwyliau’n isel. Gall ymwybyddiaeth ofalgar helpu hefyd, yn enwedig os ydych wedi bod yn isel yn y gorffennol. Mae llawer o ddulliau ar gyfer trin iselder. Os nad ydych wedi dod o hyd i un sy’n gweithio, rhowch gynnig ar ddulliau eraill tan eich bod yn dod o hyd i un yr ydych yn teimlo’n gyfforddus ag ef ac sy’n gweithio i chi.

Mae’r rhan fwyaf o bobl gydag iselder yn cael eu trin gan eu Meddyg Teulu. Yn aml, nid gwrth-iselyddion fydd dewis cyntaf eich rhagnodwr, gan y gall therapi siarad fod yr un mor effeithiol â thabledi. Os yw gwrth-iselyddion wedi’u rhagnodi i chi, gallant gymryd sawl wythnos i weithio felly peidiwch ag anobeithio os nad ydych yn teimlo’n well ar unwaith. Weithiau, maent yn gweithio orau pan maent yn cael eu cymryd am gyfnod hirach, ac ni ddylid rhoi’r gorau iddynt yn gyflym heb gyngor meddygol.

Gall eich apwyntiad cyntaf gyda’ch Meddyg Teulu deimlo’n anodd, yn enwedig os ydych yn gweld iselder fel ‘gwendid’ (nid yw’n ddim o’r fath beth!) felly gallai fod yn ddefnyddiol i ysgrifennu’r hyn yr ydych eisiau ei drafod cyn i chi ymweld â’ch Meddyg Teulu. Gwnewch nodyn o unrhyw gwestiynau neu bryderon a allai fod gennych. Mae rhai pobl yn gweld bod dod â ffrind neu aelod o’r teulu i’r apwyntiad yn ddefnyddiol. Mae iselder yn gwneud i ni deimlo’n unig ac yn anobeithiol, a gall fod yn anodd dod o hyd i’r egni i ofyn am gymorth. Gall galwad ffôn cyflym symud pethau yn eu blaenau a’ch rhoi ar y ffordd i adferiad.

Up to top


Ymddwyn i’r gwrthwyneb

Yn aml, mae iselder yn gwneud i ni fod eisiau osgoi pawb a phopeth ac mae’n ein harafu. Gall fod yn anodd iawn, ond gall cadw’n actif ac aros gyda phobl fod yn ddefnyddiol iawn. Efallai y gall aros yn y gwaith neu ddychwelyd i’r gwaith fod yn anodd hefyd, ond gall ein helpu i gadw synnwyr o reolaeth. Fel arfer, mae cadw at drefn ddyddiol arferol yn llawer gwell na thynnu’n ôl ac aros yn eich gwely. Efallai y byddwn yn teimlo fel osgoi pawb a phopeth, ond gall hynny wneud pethau’n waeth.

Up to top


Delio â phethau

Gall anwybyddu ein problemau achosi iddynt gronni. A oes pethau yn eich bywyd yr ydych yn eu hanwybyddu neu’n gwrthod delio â hwy? A allai eiriolwr neu unrhyw gymorth ychwanegol helpu? Gall y Ganolfan Cyngor ar Bopeth helpu gydag amrywiaeth o faterion, o dai i bryderon ariannol. Mae gwneud pethau i fynd i’r afael â’n problemau yn lleddfu’r baich ac yn ein helpu i deimlo ‘mewn rheolaeth’ unwaith eto.

Up to top


Atgyweirio perthnasau

Os ydych yn cael trafferth gyda pherthynas anodd, neu os yw iselder yn achosi problemau yn eich perthynas, gallwch ddod o hyd i restr o asiantaethau cenedlaethol sy’n darparu cymorth gyda pherthnasau, neu gallwch siarad â’ch Meddyg Teulu am fathau eraill o gwnsela perthynas.

Up to top


Osgoi alcohol a chyffuriau

Mae alcohol yn iselydd – mae’n gostwng eich hwyliau. Gall cyffuriau eraill nad ydynt ar bresgripsiwn fod ag effeithiau tebyg a dylid eu hosgoi. Os ydych yn meddwl y gallai alcohol neu gyffuriau fod yn broblem, gallwch gysylltu â DAN 24/7, Llinell Gymorth Cyffuriau ac Alcohol Cymru: DAN 24/7 website or call them on 0808 808 2234.

Up to top


Adnoddau hunangymorth

Mae llawer o lyfrau a gwefannau da a all helpu. Unwaith eto, bydd eich Meddyg Teulu, nyrs practis neu ymarferydd iechyd meddwl gofal sylfaenol yn gallu argymell amrywiaeth o ddeunydd rhagorol a defnyddiol.

Up to top


Gweithredwch nawr!

Y cynharaf y bydd y driniaeth yn dechrau, y cynharaf y byddwch yn teimlo’n well. Os ydych wedi cael eich effeithio gan unrhyw beth yr ydych wedi’i ddarllen yma, cysylltwch â’ch Meddyg Teulu nawr. Peidiwch ag oedi cyn gofyn am gymorth. Weithiau, mae iselder yn gwella ar ei liwt ei hun, ond pam cymryd y risg?

Siaradwch â’ch Meddyg Teulu neu weithiwr proffesiynol iechyd am wybodaeth ychwanegol neu i ddechrau eich taith i adferiad heddiw.

Up to top


Asiantaethau Cymorth

Gallwch ddodo hyd i restr o asiantaethau cenedlaethol a all helpu gydag iselder yma: Asiantaethau Iselder Cenedlaethol: National depression Agencies

Up to top


PHQ-9

ADD TABLE HERE

Sgôr uchaf PHQ-9 yw 27, mae sgoriau is yn well. Cyfrifir difrifoldeb iselder trwy roi sgoriau o 0, 1, 2 a 3, i’r categorïau ymateb: ‘Ddim o gwbl’; ‘sawl diwrnod’; ‘mwy na hanner y dyddiau’ a ‘bron bob dydd’, yn y drefn honno. Dim ond y naw cwestiwn cyntaf sy’n cael eu sgorio trwy ychwanegu sgorau’r eitemau unigol. Nid yw’r cwestiwn olaf, sef yr eitem ‘anhawster’, yn cael ei ddefnyddio wrth gyfrifo unrhyw sgôr neu ddiagnosis; ond yn hytrach, mae’n cynrychioli argraff fyd-eang y claf o nam sy’n gysylltiedig â symptomau. Mae’n hynod gysylltiedig â difrifoldeb symptomau seiciatrig ac ansawdd bywyd sy’n gysylltiedig ag iechyd. Mae sgoriau o 5, 10, 15 ac 20 yn cynrychioli pwyntiau uchaf ar gyfer iselder ‘ysgafn’, ‘cymedrol’, ‘cymedrol ddifrifol’ a ‘difrifol’, yn y drefn honno.

Gallwch lawrlwytho PDF o’r tabl uchod yma: PHQ-9 Table

Up to top


Ymwadiad

Mae’r erthygl hon ar gyfer gwybodaeth yn unig a ni ddylid ei defnyddio i ddiagnosio neu drin cyflyrau meddygol. Rydym wedi defnyddio pob gofal rhesymol wrth lunio’r wybodaeth ond nid ydym yn sicrhau ei chywirdeb. Rydym yn argymell eich bod yn ymgynghori â meddyg neu weithiwr gofal iechyd proffesiynol arall ar gyfer diagnosio a thrin cyflyrau meddygol, neu os ydych yn bryderus am eich iechyd.

Up to top