Gorbryder
Triniaethau ar gyfer gorbryder
Mae cyffuriau lleihau gorbryder (anxiolytics), rhai gwrth-iselyddion a ‘therapïau siarad’ (cwnsela neu seicotherapi) yn hynod ddefnyddiol a gellir eu cyrchu drwy eich Meddyg Teulu. Dylech gysylltu â’ch Meddyg Teulu ar unwaith os ydych yn meddwl eich bod yn dod yn orbryderus. Gall ymwybyddiaeth ofalgar a ffurfiau eraill o fyfyrdod helpu hefyd.
Mae llawer o ddulliau ar gyfer trin gorbryder. Os nad ydych yn dod o hyd i un sy’n gweithio, rhowch gynnig ar ddulliau eraill tan eich bod yn dod o hyd i un yr ydych yn teimlo’n gyfforddus ag ef ac sy’n gweithio i chi.
Mae’r rhan fwyaf o bobl sy’n dioddef o orbryder yn cael eu trin gan eu Meddyg Teulu. Yn aml, nid meddyginiaeth fydd dewis cyntaf eich rhagnodwr, gan y gall therapi siarad fod yr un mor effeithiol â thabledi.
Os yw gwrth-iselyddion yn cael eu rhagnodi i chi, gallant gymryd sawl wythnos i weithio felly peidiwch â cholli gobaith os nad ydych yn teimlo’n well ar unwaith. Weithiau, maent yn gweithio orau pan maent yn cael eu cymryd am gyfnod hirach, ac ni ddylid rhoi’r gorau iddynt yn gyflym heb gyngor meddygol.
Gall eich apwyntiad cyntaf gyda’ch Meddyg Teulu deimlo’n anodd, yn enwedig os ydych yn gweld gorbryder fel ‘gwendid’ (nid yw’n ddim o’r fath beth!) felly gallai fod yn ddefnyddiol i ysgrifennu’r hyn yr ydych eisiau ei drafod cyn i chi ymweld â’ch Meddyg Teulu. Gwnewch nodyn o unrhyw gwestiynau neu bryderon a allai fod gennych.
Mae rhai pobl yn ei gweld bod dod â ffrind neu aelod o’r teulu i’r apwyntiad yn ddefnyddiol.
Mae gorbryder yn gwneud i ni deimlo’n unig ac yn anobeithiol, a gall fod yn anodd dod o hyd i’r egni i ofyn am gymorth. Gall galwad ffôn cyflym symud pethau yn eu blaenau a’ch rhoi ar y ffordd i adferiad.
Ymddwyn i’r gwrthwyneb
Yn aml, mae gorbryder yn gwneud i ni fod eisiau osgoi pobl neu sefyllfaoedd. Gall fod yn anodd iawn, ond gall wynebu ein hofnau ac aros gyda phobl fod yn ddefnyddiol iawn. Efallai y gall aros neu ddychwelyd i’r gwaith fod yn anodd hefyd, ond gall ein helpu i gadw synnwyr o reolaeth. Fel arfer, mae cadw at drefn ddyddiol arferol yn llawer gwell na thynnu’n ôl. Efallai y byddwn yn teimlo fel osgoi pawb a phopeth, ond gall gwneud hynny wneud pethau’n waeth.
Pan rydym yn osgoi sefyllfa, mae’n anoddach i ni gael rheolaeth dros ein hofnau.
Therapïau Siarad
Mae llawer o wahanol fathau o therapi siarad; y mwyaf effeithiol ar gyfer anhwylderau gorbryder yn ôl pob tebyg yw therapi ymddygiad gwybyddol (CBT). Mewn CBT, rydym yn dysgu sut i wynebu ein hofnau a dysgu am y ffyrdd y gall ein meddyliau ein gwneud yn fwy gorbyderus ac yn llai abl i ymdopi. Bydd eich therapydd CBT yn eich helpu i ddysgu sgiliau newydd i ddelio â gorbryder ac yn eich helpu i wynebu pethau y gallech fod wedi’u hosgoi.
Mae triniaethau eraill ar gael ar gyfer anhwylderau gorbryder eraill, er enghraifft, dangoswyd bod PTSD yn ymateb yn dda i ddull cymharol newydd, EMDR (Dadsensiteiddio ac Ailbrosesu Symudiad Llygaid).
Delio â phethau
Gall anwybyddu ein problemau achosi iddynt gronni. A oes pethau yn eich bywyd yr ydych yn eu hanwybyddu neu’n gwrthod delio â hwy? A allai eiriolwr neu unrhyw gymorth ychwanegol helpu? Gall y Ganolfan Cyngor ar Bopeth helpu gydag amrywiaeth o faterion, o dai i bryderon ariannol. Mae gwneud pethau i fynd i’r afael â’n problemau yn lleddfu’r baich ac yn ein helpu i deimlo ‘mewn rheolaeth’ unwaith eto.
Atgyweirio Perthnasau
Os ydych yn cael trafferth gyda pherthynas anodd, neu os yw gorbryder yn achosi problemau yn eich perthynas, gallwch ddod o hyd i restr o asiantaethau cenedlaethol sy’n darparu cymorth gyda pherthnasau, neu gallwch siarad â’ch Meddyg Teulu am fathau eraill o gwnsela perthynas.
Osgoi alcohol a chyffuriau
Mae alcohol yn iselydd – mae’n gostwng eich hwyliau. Gall cyffuriau eraill nad ydynt ar bresgripsiwn fod ag effeithiau tebyg a dylid eu hosgoi. Os ydych yn meddwl y gallai alcohol neu gyffuriau fod yn broblem, gallwch gysylltu â DAN 24/7, Llinell Gymorth Cyffuriau ac Alcohol Cymru: DAN 24/7 website or call them on 0808 808 2234.
Adnoddau hunangymorth
Mae llawer o lyfrau a gwefannau da a all helpu. Unwaith eto, bydd eich Meddyg Teulu, nyrs practis neu ymarferydd iechyd meddwl gofal sylfaenol yn gallu argymell o amrywiaeth o ddeunydd rhagorol a defnyddiol.
Gweithredwch nawr!
Y cynharaf y bydd y driniaeth yn dechrau, y cynharaf y byddwch yn teimlo’n well. Os ydych wedi cael eich effeithio gan unrhyw beth yr ydych wedi’i ddarllen yma, cysylltwch â’ch Meddyg Teulu nawr. Peidiwch ag oedi cyn gofyn am gymorth. Weithiau, mae gorbryder yn codi ar ei liwt ei hun, ond pam cymryd y risg?
Siaradwch â’ch Meddyg Teulu neu weithiwr proffesiynol iechyd am wybodaeth ychwanegol neu i ddechrau eich taith i adferiad heddiw.
Asiantaethau Cymorth
Gallwch ddod o hyd i restr o asiantaethau cenedlaethol a all helpu gyda gorbryder yma: National Anxiety Agencies
Ymwadiad:
Mae’r deunydd hwn ar gyfer gwybodaeth yn unig a ni ddylid ei ddefnyddio i ddiagnosio neu drin cyflyrau meddygol. Rydym wedi defnyddio pob gofal rhesymol wrth lunio’r wybodaeth ond nid ydym yn sicrhau ei chywirdeb. Rydym yn argymell eich bod yn ymgynghori â meddyg neu weithiwr proffesiynol gofal iechyd arall ar gyfer diagnosio a thrin cyflyrau meddygol, neu os ydych yn bryderus am eich iechyd.