Mynd i'r cynnwys

Amdanom ni

Beth yw C.A.L.L.?

Mae C.A.L.L. yn llinell gymorth iechyd meddwl Cymru gyfan sydd ar gael 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn.

Mae’r llinell gymorth yn cynnig cymorth emosiynol i bobl sy’n profi problemau iechyd meddwl yn ogystal â’u teuluoedd, eu ffrindiau a’u gofalwyr.

Sut gall C.A.L.L. helpu?

Gall trafod eich ofnau a’ch teimladau gyda rhywun sy’n deall, ond sydd heb gysylltiad emosiynol â chi, fod o gymorth.

Mae’r tîm yn C.A.L.L wedi’u hyfforddi i roi cymorth iechyd meddwl i unrhyw un sy’n byw yng Nghymru.

Gall C.A.L.L roi cymorth emosiynol, cynnig clust i wrando a’ch cyfeirio at y gwasanaeth mwyaf priodol.

Mae gan Linell Gymorth C.A.L.L. gronfa ddata gynhwysfawr o wasanaethau, rhai statudol a gwirfoddol, a all fod o gymorth. Gall gwasanaethau fod yn lleol neu’n genedlaethol, os oes angen.

Gellir hefyd anfon taflenni hunangymorth atoch yn rhad ac am ddim.

Mae galwadau am ddim ac nid oes angen i chi roi unrhyw wybodaeth adnabyddadwy i gael cymorth neu wybodaeth.

Pwy all C.A.L.L. ei helpu?

  • Rhai sydd angen cymorth gyda’u problemau iechyd meddwl
  • Rhai sydd â phryderon ynghylch hunanladdiad neu hunan-niwed
  • Ffrindiau, teulu a gofalwyr unigolyn sydd â phryderon ynghylch iechyd meddwl
  • Unrhyw un sy’n byw yng Nghymru sydd angen gwybodaeth gyswllt ar gyfer gwasanaethau lleol a gwasanaethau cenedlaethol

Oriau agor

24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos, 365 diwrnod y flwyddyn (gan gynnwys gwyliau banc). Mae pob galwad yn gyfrinachol ac am ddim.

Gwasanaeth a ariennir gan Lywodraeth Cymru a gynhelir gan y GIG.

(Facebook) @CALLHelplineWales

(Twitter) @CALL_247

Contact

Ffoniwch C.A.L.L. am ddim ar 0800 132 737 neu anfonwch e-bost i CALL@HELPLINE.WALES