Gwasanaeth E-bost
Sut i ddefnyddio’r gwasanaeth e-bostio
Mae C.A.L.L. wedi lansio gwasanaeth newydd sy’n galluogi pobl i gael mynediad at gymorth a gwybodaeth drwy e-bost.
Os na allwch chi siarad â rhywun dros y ffôn neu os nad ydych chi eisiau siarad â rhywun ar y ffôn ond dal angen cymorth, yna mae gennych chi’r opsiwn o gyfathrebu trwy e-bost.
Gall unrhyw un sy’n pryderu am eu hiechyd meddwl eu hunain neu iechyd meddwl perthynas neu ffrind gael mynediad i’r gwasanaeth trwy anfon cais i’r e-bost isod.
CALL@HELPLINE.WALES
Anfonwch eich e-bost at CALL@HELPLINE.WALES
Os hoffech chi wybodaeth am gwasanaethau, ychwanegwch y cais hwn yn yr e-bost.
Sylwer: Nid gwasanaeth brys yw bwriad y system hon; os oes angen cymorth brys arnoch, cysylltwch â 111 Press 2 neu ffoniwch 999.
Polisi Negeseuon E-bost C.A.L.L.
Cefndir
Pwrpas y cyfleuster e-bostio yw galluogi C.A.L.L. i e-bostio pobl am wybodaeth a gwasanaethau sydd ar gael iddynt yng Nghymru ac yn genedlaethol. Er enghraifft, bydd y gwasanaeth yn galluogi pobl i geisio cymorth, derbyn gwybodaeth am asiantaethau (statudol a gwirfoddol) a gofyn am lenyddiaeth hunangymorth.
Cydsyniad
Os ydych o dan 16 oed, gofynnwch am ganiatâd eich rhiant neu ofalwr cyn defnyddio’r gwasanaeth hwn.
Codi tâl
Ni chodir tâl am anfon e-bost.
Defnyddiau
Ni fydd C.A.L.L. yn defnyddio’ch gwybodaeth at unrhyw ddiben heblaw’r un a nodwyd gennych pan wnaethoch anfon e-bost at y gwasanaeth e-bostio.
Eich Hawliau Fel Defnyddiwr
Mae gennych yr hawl:
- i gael gwybod pa wybodaeth mae C.A.L.L. yn dal amdanoch ch
- i gael mynediad at wybodaeth sydd gennym amdanoch
- i ofyn i C.A.L.L. peidio â chadw gwybodaeth amdanoch chi, os yw’n achosi niwed neu drallod i chi
- i gael gwybodaeth bersonol anghywir wedi’i chywiro, ei rhwystro, ei dileu neu ei dinistrio lle bo’n briodol
- i wneud cwyn i C.A.L.L. os ydych yn credu nad yw eich gwybodaeth wedi’i thrin yn unol â’r Ddeddf
- i ofyn am gopi o ddogfennau Polisi, lle rydym yn gosod ein rheolau ar gyfrinachedd, a phryd y byddwn yn defnyddio unrhyw ddata a gedwir.