Gwasanaeth Tecst
Mae Llinell gymorth C.A.L.L. wedi lansio gwasanaeth tecst sy'n cynnig cymorth a gwybodaeth I bobl drwy negeseuon tecst ar eu ffôn symudol.
Os ydych yn poeni am eich iechyd meddwl neu iechyd meddwl perthynas neu ffrind fe allwch ddefnyddio'r gwasaneth drwy yrru cais byr i'r rhif ffôn isod.
81066
Gyrrwch y gair HELP â'r manylion rydych yn eu ceisio i 81066. Dyma rhai esiamplau:
HELP asiantaeth cynghori yn CF43
HELP rhif ffôn ar gyfer Calm Gogledd Cymru
HELP rhif ffôn ar gyfer Young Minds Gogledd Cymru
Gair o rybudd: Nid cael ei ddefnyddio fel gwasaeth argyfwng yw bwriad y system hon; os ydych angen cymorth ar frys cysylltwch hefo eich doctor neu'r gwasanethau argyfwng ar 999.