English
24/7/365

Llinell Gymorth lechyd Meddwl ar gyfer Cymru

Llinell Gyngor a Gwrando'r Gymuned

Yn cynnig gwasanaeth gwrando cyfrinachol a cefnogaeth

Ffon di-dal

0800 132 737

Neu techstiwch help i

81066

Beth yw Llinell Gymorth CALL?

CALL yw’r Llinell Gymorth Iechyd Meddwl ar gyfer Cymru.
Mae’n cynnig cefnogaeth emosiynol ar gyfer unrhyw un sy’n byw yng Nghymru.
Mae gweithredwyr y llinell gymorth yn cynnig clust i wrando ar gyfer unrhyw un sydd eisiau cefnogaeth gyda’u hiechyd meddwl.

Mae llinell gymorth CALL ar gael 24/7 i bawb sy’n ffonio o Gymru.
Yn ogystal, mae CALL yn wasanaeth dwyieithog, sy’n golygu gall y rhai sy’n ffonio siarad Cymraeg neu Saesneg gyda gweithredwr y llinell gymorth.

Mae CALL hefyd yn darparu gwasanaeth drwy’r Llinell Iaith, sy’n galluogi’r unigolyn sydd ar ben arall y ffôn i siarad gyda Gweithredwr y llinell gymorth yn yr iaith o’i ddewis ef/ei dewis hi.

Beth fydd yn digwydd ar ôl i chi ddeialu rhif llinell gymorth CALL?

Bydd Gweithredwr y Llinell Gymorth yn ateb eich galwad gan ddweud “Llinell gymorth CALL, sut allaf eich helpu?”
Yna bydd angen i chi ddweud wrth y gweithredwr beth rydych eisiau ei drafod. Bydd Gweithredwr y Llinell Gymorth yn darparu cefnogaeth wrth wrando.
Nod y Gweithredwr yw eich helpu, trwy wrando os ydych eisiau sôn am fater neu broblem sy’n effeithio arnoch chi neu’n effeithio ar rywun rydych yn ei hadnabod, gan roi cyngor cyffredinol, eich cyfeirio ymlaen neu anfon llenyddiaeth.
Os ydych yn ffonio’r llinell gymorth am y rhesymau anghywir, (e.e. awydd ‘sgwrs’, ffonio i basio’r amser, ceisio gwybodaeth am y broses ddiagnostig, ceisio cyngor unigol a strategaethau ymdopi, neu ffonio i ofyn am gyngor penodol ar bwnc sydd tu hwnt i allu’r gweithredwr), bydd y sgwrs yn dirwyn i ben.
Yn yr un modd, bydd yr alwad yn dod i ben os byddwch yn dechrau dadlau gyda'r gweithredwr neu'n ei gam-drin yn eiriol.

Gyda phwy fyddwch chi’n siarad ar ôl i’ch galwad gael ei hateb?

Byddwch yn siarad â Gweithredwr y Llinell Gymorth sydd wedi derbyn hyfforddiant. Mae Gweithredwr y Llinell Gymorth wedi'i hyfforddi i allu helpu drwy wrando, cynghori, cyfeirio neu anfon llenyddiaeth atoch (llyfrynnau hunangymorth neu lyfrynnau gwybodaeth am wasanaethau fel arfer).

Mae’r pynciau y mae Gweithredwyr y Llinell Gymorth wedi derbyn hyfforddiant ynddynt yn cynnwys:-

Sut ydyn ni’n cefnogi pobl sydd â chyflyrau Niwrowahanol?

Yn ddiweddar, mae Llinell gymorth CALL wedi derbyn hyfforddiant ar ystod o gyflyrau niwrowahanol a sut i addasu ein harferion. Felly, gallwn ymestyn ein gwasanaeth i ddarparu clust i wrando, sy’n anfeirniadol i unigolion niwrowahanol, eu teuluoedd a'u gofalwyr. Mae hyn yn cynnwys rhieni sydd â phlant niwrowahanol. Nid oes angen i chi gael diagnosis ffurfiol er mwyn cael mynediad at Linell Gymorth CALL. Mae’n bosibl eich bod eisoes ar y rhestr aros am ddiagnosis neu efallai eich bod yn meddwl y gallai fod gennych chi, eich plentyn, neu rywun sy’n annwyl i chi gyflwr niwrowahanol.

Gall y gweithredwyr hefyd ddarparu gwybodaeth am wasanaethau lleol neu genedlaethol ledled Cymru megis, y timau iechyd meddwl cymunedol, y Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol, Gwasanaethau Awtistiaeth Integredig, Gwasanaethau Niwroddatblygiadol Plant, timau camddefnyddio sylweddau, gwasanaethau ariannol, gwasanaethau cyfreithiol ac ati. Ar ben hynny, gall tîm llinell gymorth CALL anfon llenyddiaeth ar amrywiaeth o wahanol bynciau, a hynny am ddim drwy’r post.

Cymorth Niwroamrywiol drwy Linell Gymorth C.A.L.L. Cymru

Cysylltu

Gallwch gysylltu â CALL drwy ffonio 0800 132737 neu tecstiwch y gair HELP i 81066 *

*Efallai bydd negeseuon tecst at y gwasanaeth hwn yn cael eu codi ar gyfradd safonol eich rhwydwaith.